Menu

Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Search
Translate

Croeso i / Welcome to Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Y Cyngor ECO

Ein Nod

 

 

Ein nod yw gwneud Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn yn ysgol fwy eco-gyfeillgar, gan gefnogi cynaliadwyedd ac amddiffyn ein planed. Fel ysgol platinwm, rydym yn ymrwymedig i ymgyrchu dros amgylchedd mwy cynaliadwy a gwneud ein hysgol yn lle mwy gwyrdd. Fel aelodau’r Cyngor Eco, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i leihau ein hallyriadau carbon, sicrhau ein bod yn defnyddio adnoddau yn effeithiol ac yn ymgysylltu â phrosiectau sy’n cefnogi amgylchedd iach a glân. Rydym yn annog y gymuned ysgol i ailgylchu, arbed dŵr a lleihau sbwriel trwy weithgareddau fel ymgyrchoedd gwybodaeth a digwyddiadau cymunedol. Rydym yn cydweithio â phobl eraill yn yr ysgol ac yn y gymuned i greu newid cadarnhaol, gan helpu i greu ysgol sy’n rhoi pwyslais ar y byd naturiol a’n cyfrifoldebau amgylcheddol. Trwy ein gwaith, rydym yn ysbrydoli pob un o'n cyd-disgyblion i gymryd rhan ac i ofalu am y byd o'n cwmpas.

 

Our Aim

 

Our aim is to make Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn a more eco-friendly school, supporting sustainability and protecting our planet. As a platinum school, we are committed to campaigning for a more sustainable environment and making our school a greener place. As members of the Eco Council, we work together to reduce our carbon emissions, ensure we use resources effectively and engage in projects that support a healthy and clean environment. We encourage the school community to recycle, save water and reduce litter through activities such as information campaigns and community events. We collaborate with the community to create positive change, helping to create a school that places emphasis on the natural world and our environmental responsibilities. Through our work, we inspire all our classmates to take part and to care for the world around us.

Top