Menu

Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Search
Translate

Croeso i / Welcome to Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Croeso/Welcome

Croeso i Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn

Welcome to Parc y Tywyn School.

 

    

Croeso cynnes i Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn. Gobeithiaf bydd ein gwefan yn ddefnyddiol ac yn eich annog i ddod i'n gweld ni yn yr ysgol.

 

Yn gyntaf, hoffwn estyn croeso cynnes i Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn a chyflwyno fy hun. Yr wyf wedi bod yn bennaeth o'r ysgol hon ers Ionawr 2023 ac rwy’n hynod falch o arwain yr ysgol wych hon, lle rydym yn ymrwymo i ddarparu amgylchedd meithringar ac ysbrydoledig i’n holl ddisgyblion. Ym Mharc y Tywyn, credwn mewn meithrin cariad at ddysgu drwy brofiadau cyfoethog, y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth.

 

Mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer ein holl ddysgwyr, gan sicrhau eu bod yn datblygu fel unigolion iach a hyderus, galluog ac uchelgeisiol. Mae ethos ein hysgol wedi’i wreiddio mewn parch, Cymreictod, dyfalbarhad a chyfrifoldeb, ac rydym yn annog ein disgyblion i fynd ati i ddysgu gyda chwilfrydedd, creadigrwydd ac uniondeb.

 

O’r eiliad y bydd plant yn ymuno â ni yn y blynyddoedd cynnar, cânt eu cefnogi i gyflawni eu gorau mewn amgylchedd hapus a gofalgar. Rydym yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgu, ymddygiad a datblygiad personol, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i lwyddo.

 

Mae partneriaethau cryf gyda rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach yn ganolog i’n gweledigaeth. Rydym yn gwerthfawrogi gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni ei botensial llawn ar draws pob maes dysgu a phrofiad. Mae ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg, ein diwylliant a’n treftadaeth wrth wraidd popeth a wnawn, gan helpu ein plant i ddatblygu ymdeimlad dwfn o hunaniaeth a pherthyn.

 

Os hoffech ymweld â’n hysgol, byddem yn falch iawn o’ch croesawu i brofi cymuned fywiog a chefnogol Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn.


Dymuniadau gorau,

Mrs A Williams

Pennaeth

 

 

Firstly, I would like to extend a warm welcome to Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn and introduce myself. I joined Ysgol Gynradd Gymraeg Parc y Tywyn in January 2022 and I am incredibly proud to lead this wonderful school, where we are committed to providing a nurturing and inspiring environment for all our pupils. At Ysgol Gynradd Gymraeg Parc y Tywyn, we believe in fostering a love of learning through rich experiences both inside and outside the classroom.

 

We have high aspirations for all our learners, ensuring they develop as confident, capable, and ambitious individuals. Our school ethos is rooted in respect, welshness, perseverance, and responsibility and we encourage our pupils to approach their learning with curiosity, creativity, and integrity.

 

From the moment children join us in the early years, they are supported to achieve their best in a happy and caring environment. We set high expectations for learning, behaviour, and personal development, ensuring that every child has the opportunity to thrive.

 

Strong partnerships with parents, carers, and the wider community are central to our vision. We value working together to ensure that every pupil reaches their full potential across all areas of the curriculum. Our commitment to the Welsh language, culture, and heritage is at the heart of everything we do, helping our children to develop a deep sense of identity and belonging.

 

If you would like to visit our school, we would be delighted to welcome you to experience the vibrant and supportive community at Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn.

 

Best wishes,

Mrs A Williams

Headteacher

Top