Menu

YGG Parc Y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Search
Translate

Croeso i / Welcome to YGG Parc Y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Presenoldeb a gwyliau / Attendance and holidays

Mae Presenoldeb yn yr Ysgol yn Bwysig!

 

Mae'n bwysig iawn fod pob plentyn yn mynychu'r ysgol bob dydd ac yn cyrraedd yn brydlon. Deallwn yn iawn fod plant yn dost o bryd i'w gilydd a gofynnir i chi gysylltu â swyddfa'r ysgol bob dydd y bydd plentyn yn dost i'n hysbysu - gadewch neges fer ar y peiriant ateb.  Os nag yw plentyn yn yr ysgol, ni fydd yn dysgu!

 

Attendance Matters!

 

It is essential that all children attend school every day and arrive promptly.  We totally understand that children become ill from time to time and you are kindly asked to contact the school office each day of an absence to inform us - leave a short message on the answerphone.  If a child is not in school, he/she does not learn!

 

 

PRYDLONDEB 

 

Rhaid cadw at amser dechrau blwyddyn ysgol eich plentyn. Gofynnwn i bob plentyn gyrraedd yn brydlon i sicrhau dechrau cadarnhaol i’r diwrnod. Rhaid i bob plentyn sy’n cyrraedd yn hwyr adrodd i brif swyddfa’r Ysgol. 
Mae cofnod hwyrni yn cael eu cadw fel rhan o'n cofrestr arferol. Os oes patrwm sydd yn peri gofid yn amlygu, mi fydd yr ysgol yn danfon llythyr adref ac yn cysylltu â'r Swyddog Lles yr Ysgol. 
Mewn achosion o gyfnodau hir o absenoldeb heb esboniad, cysylltwn â'r Swyddog Lles ac yn dibynnu ar y sefyllfa, bydd y Swyddog hynny yn cysylltu â'r cartref. 

 

 

PUNCTUALITY 

 

The starting time for your child's school year must be adhered to. We ask all children to arrive on time to ensure a positive start to the day. All children who arrive late must report to the School Office.
A lateness record is kept as part of our normal register. If a concerning pattern of lateness emerges, the school will send a letter home and contact the School Welfare Officer.
In cases of prolonged unexplained absence, we contact the Welfare Officer and depending on the situation, that Officer will contact the home.

Gwyliau

 

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2006 yn nodi y disgwylir i ddisgyblion fynychu’r ysgol 190 diwrnod y flwyddyn. Nid oes gan rieni hawl awtomatig i dynnu disgyblion allan o’r ysgol ar gyfer gwyliau ac yn ôl y gyfraith mae’n rhaid iddynt wneud cais am ganiatâd ymlaen llaw. Ceir cyfatebiaeth gref rhwng presenoldeb da a chyflawniad uchel. Fel ysgol, rydym yn annog rhieni yn weithredol i beidio â chael amser i ffwrdd yn ystod tymor yr ysgol fel y gall plant elwa’n llawn ar y cyfleoedd y mae’r ysgol yn eu cynnig.

 

Os rydych yn bwriadu tynnu eich plentyn o'r ysgol yn ystod tymor yr ysgol yna bydd angen i chi gwblhau ffurflen “caniatâd i fod yn absennol” a’i dychwelyd i’r ysgol o leiaf ddeg diwrnod ysgol cyn eich gwyliau arfaethedig.

 

Bydd pob cais am wyliau yn ystod tymor yr ysgol yn cael ei ystyried ar sail unigol. 10 DIWRNOD, rhwng 1 Medi a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn academaidd, yw uchafswm y diwrnodau o wyliau y ceir eu cymryd yn ystod tymor yr ysgol.

 

Wrth ystyried gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol yn y dyfodol, byddwn yn gofyn i chi ystyried y canlynol:-

 

a)       peidio â chymryd gwyliau yn ystod tymor yr ysgol;

b)       yr effaith y gallai’r absenoldeb o’r ysgol ei chael ar addysg a datblygiad eich plentyn; a

c) chymryd gwyliau teuluol yn ystod gwyliau’r ysgol pa fo hynny’n bosibl.

 

Rydym hefyd yn gofyn, pan fyddwch yn dychwelyd o’ch gwyliau, fod eich plentyn yn dychwelyd i’r ysgol yn brydlon.

 

Holidays

 

The Education (School Day School Year) (Wales) Regulations 2006 states pupils are expected to attend school for 190 days a year. Moreover, there is a strong correlation between good attendance and high achievement. As a school we actively encourage parents not to take time off during term time so that children can fully benefit from the opportunities that school provides.

 

Parents do not have an automatic right to withdraw pupils from school for a holiday and in law have to apply for permission in advance. If you are intending on going on holidays, please complete a  “leave of absence” form and return to the school office at least ten school days before your intended holiday.

 

All applications for holidays in term time will be considered on an individual basis.  The maximum number of days holiday which can be taken in term time is 10 DAYS between 1st September to 31st August in any academic year.

 

When considering future family holidays in term time, I would ask you to consider the following:-

 

a)       not to take holidays during term time;

b)       the effect the absence from school may have on your child’s education and development; and

c) where possible, take family holidays during school holidays.

 

We would also ask that, on your return from holiday, your child returns to school promptly.

Top