Menu

YGG Parc Y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Search
Translate

Croeso i / Welcome to YGG Parc Y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Hanes yr ysgol / School history

Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn yn arddangos ei chartref newydd - 2018

 

YGG Parc y Tywyn yw'r ysgol ddiweddaraf i gael ei chyflawni drwy gyfrwng Rhaglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin. Ariannwyd yr adeilad newydd sydd werth £9.6 miliwn yn gyfartal rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru drwy'r fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif. agorwyd drysau'r ysgol ym mis Gorffennaf 2018 ac mae'n darparu ar gyfer plant 3-11 oed, ynghyd a darparu 45 o leoedd meithrin.

 

Mae'r ysgol newydd wedi cael ei hadeiladu yn unol a'r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, sy'n golygu mai hon yw'r ysgol ddiweddaraf i gyrraedd safon ardderchog BREEAM a safon Passivhaus yng Nghymru. Pren o Gymru yw'r prif ddeunydd y strwythur a phren meddal lleol yw'r rhan fwyaf o'r cladin allanol rhag y glaw. 

 

Edrychwn ymlaen ar ddyfodol llwyddiannus mewn awyrgylch cyfoes a fydd yn cynnal a chefnogi addysg gynradd Gymraeg yn yr ardal am genedlaethau i ddod.

 

Englyn gan y parchedig Meirion Evans, bardd lleol i ddathlu agoriad yr adeilad newydd, Chwefror 8fed 2019 :                                                                         

  'Hon yw gardd, hon yw gwerddon ein heniaith

                    rhwng y twyni moelion;

                    a wedi hau cwyd o hon

                     egin ein ysgolheigion.'

 

 

 

Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn shows off its new home - 2018

 

Parc y Tywyn is the latest school to be delivered through Carmarthenshire County Council's Modernising Programme. The £9.6m new building was funded equally between Carmarthenshire County Council and Welsh Government through the 21st Century Schools initiative. The school opened its doors in July 2018 and caters for children 3 to 11, with 45 nursery places.

 

The new school has been built to the highest energy efficient standards, becoming the latest Passivhaus and BREEAM Excellent school building in Wales. Welsh home grown timber is the principal structural material, and locally sourced softwoods provide the majority of the external rain cladding.

 

We look forward to a successful  future in contemporary surroundings, which will support and enhance Welsh medium education in the community for generations to come.

 

 

Top