Menu

YGG Parc Y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Search
Translate

Croeso i / Welcome to YGG Parc Y Tywyn 'Annog Annibyniaeth, Bachu Brwdfrydedd, Cyfoethogi Creadigrwydd'

Adroddiadau ESTYN/ ESTYN Reports

Yn ystod yr arolwg fe wnaeth Estyn datgan: 

'Mae’r amgylchedd cartrefol a chynhwysol yn cyfrannu’n effeithiol at ymdeimlad y disgyblion o falchder yn eu gwaith a’u perthyn i’r ysgol.  Maent yn hapus i’w mynychu, yn ymddwyn yn dda iawn ac yn datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu.  Yn ystod eu cyfnod yno, mae’r rhan fwyaf yn gwneud cynnydd cadarn ac yn cyflawni’n dda.   
Mae’r athrawon yn darparu profiadau dysgu diddorol i’w disgyblion, sy’n bodloni anghenion y rhan fwyaf ohonynt.  Mae naws Gymreig yn bodoli yn yr ysgol gyda’r ddarpariaeth yn hybu’r disgyblion i wneud defnydd llawn o’r Gymraeg ym mhob agwedd o’i gwaith a’i bywyd.  O ganlyniad, mae disgyblion yn dangos balchder tuag at yr iaith a gwerthfawrogiad amlwg o ddiwylliant a hanes yr ardal leol.  Maent yn defnyddio eu tafodiaith leol yn gwbl naturiol.   
Mae’r pennaeth yn gweithio’n effeithiol gyda’r staff a’r corff llywodraethol.  Mae hyn yn hyrwyddo gwaith tîm cryf ac yn cael effaith gadarnhaol ar amgylchedd ddysgu'r ysgol.'

 

Mae’n hyfryd rhannu’r ganmoliaeth a’r gydnabyddiaeth haeddiannol dderbyniwyd gan gymuned yr ysgol am ei llwyddiannau. Gai fanteisio ar y cyfle i longyfarch y plant, rhieni, Corff Llywodraethol ac aelodau staff yr ysgol.nOs am fwy o wybodaeth darllenwch yr adroddiad canlynol:

Mr C Davies

Pennaeth

 

During the inspection, ESTYN stated the follwoing:

'The homely and inclusive environment contributes effectively to pupils’ sense of pride in their work and belonging to their school.  They are happy to attend, behave very well and develop positive attitudes to learning.  During their time there, most make sound progress and achieve well. 
Teachers provide interesting learning experience for their pupils, which meet most of their needs.  The school has a Welsh ethos and provision encourages pupils to make full use of the Welsh language in all aspects of their life and work.  As a result, pupils show pride towards the language and an obvious appreciation of the culture and history of their local area.  They use their local dialect completely naturally. 
The headteacher works effectively with staff and the governing body.  This promotes strong teamwork and has a positive effect on the school’s learning environment.'

 

It’s wonderful to share the well-deserved praise and acknowledgment received by the school community for its successes. May I take this opportunity to congratulate the children, parents, Governing Body and the school staff. For more information, please read the following report : 

Mr C Davies

Headteacher

Top